Senedd Cymru 
 Ymchwil y Senedd
 Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad 
 Adroddiad Monitro: Ionawr 2024
 

 

 

 

Tabl Cynnwys

1.         Cyflwyniad.. 4

2.        Cysylltiadau rhwng y DU a’r UE.. 5

Cytundeb Masnach a Chydweithredu.. 5

Cyfarfodydd y Cytundeb.. 6

Y Cytundeb Ymadael 6

Alinio ac ymwahanu.. 7

Cyfraith yr UE a ddargedwir. 7

Gogledd Iwerddon.. 7

Diweddariadau eraill 8

3.        Cysylltiadau rhynglywodraethol a rhyngseneddol 9

4.        Deddf Marchnad Fewnol y DU.. 12

5.        Deddfwriaeth.. 13

5.1 Deddfwriaeth y Senedd.. 13

5.2 Deddfwriaeth y DU.. 13

6.        Cydsyniad deddfwriaethol 14

7.        Y Cyfansoddiad.. 15

8.        Diwygio'r Senedd ac etholiadau.. 17

9.        Cyfiawnder. 18

9.1 Cymru.. 18

9.2 Y DU.. 19

9.3 Yr Alban.. 20

10.      Atodiad: Geirfa: 21

 

1.            Cyflwyniad

Mae gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gylch gwaith eang sy’n ymdrin ag amrywiaeth o feysydd. Bwriedir i’r adroddiad monitro hwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor am y prif ddatblygiadau polisi sy’n ymwneud â chylch gwaith y Pwyllgor. Mae'r adroddiad yn ymdrin â'r cyfnod rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2023.

Bydd y Pwyllgor yn trafod y materion hyn ac unrhyw gamau yr hoffai eu cymryd mewn ymateb iddynt. Cyhoeddir yr adroddiad hwn er mwyn hysbysu rhanddeiliaid am rai o’r materion y mae’r Pwyllgor wrthi’n eu hystyried.

Mae rhestr o dermau allweddol wedi'i chynnwys fel Atodiad.

2.         Cysylltiadau rhwng y DU a’r UE

Cyfarfu Ysgrifennydd Tramor y DU David Cameron ag Is-lywydd y Comisiwn Ewropeaidd Maroš Šefčovič ym Mrwsel ar 29 Tachwedd. Ysgrifennodd yr Arglwydd Cameron ar X ei fod yn edrych ymlaen at gydweithio ar y materion sy'n bwysig i’r ddau, gan gynnwys cefnogaeth i Wcráin, y Cytundeb Ymadael a gwneud y mwyaf o gyfleoedd y Cytundeb Masnach a Chydweithredu. 

Cynhaliwyd cyfarfod y Grŵp Rhyngweinidogol ar Gysylltiadau rhwng y DU a'r UE ar 11 Medi.  Leo Docherty, Gweinidog Llywodraeth y DU dros Ewrop oedd cadeirydd y cyfarfod. Dywedodd datganiad ysgrifenedig Llywodraeth Cymru y cafodd ei gynnal i baratoi at nifer o gyfarfodydd o dan y Cytundeb Masnach a Chydweithredu.

Ar 1 Hydref, dechreuodd mecanwaith addasu ffin carbon yr UE (CBAM) ar ei gyfnod pontio, gyda'r cyfnod adrodd cyntaf ar gyfer mewnforwyr yn dod i ben ym mis Ionawr 2024. Cyhoeddodd Llywodraeth y DU hefyd y byddai'n gweithredu’r mecanwaith erbyn 2027, yn dilyn ymgynghoriad ar fynd i'r afael â risg gollyngiadau carbon i gefnogi datgarboneiddio.

Ym mis Medi, adroddwyd bod y DU yn agos at sicrhau bargen ar gydweithrediad ag asiantaeth amddiffyn ffiniau'r UE, Frontex.. Mewn llythyr at y Pwyllgor Materion Cartrefdyddiedig 26 Hydref, cadarnhaodd y Gweinidog Gwladol dros Fewnfudo, Robert Jenrick AS, fod trafodaethau’n parhau.

Ym mis Tachwedd, cyhoeddodd y Comisiwn Annibynnol ar gysylltiadau rhwng yr UE a'r DUadroddiad ar y dyfodol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol ar ôl Brexit. Roedd ei argymhellion yn canolbwyntio ar gyd-gydnabod profion sypiau a chymwysterau proffesiynol.

Cytundeb Masnach a Chydweithredu

Cyfarfu nifer o gyrff sy'n eistedd o dan y Cytundeb Masnach a Chydweithredu dros y cyfnod hwn, gan gynnwys Pwyllgorau Arbenigol ar Ynni (9 Tachwedd), pysgodfeydd (22 Medi), eiddo deallusol (23 Hydref) a chydweithrediad rheoleiddio (6 Tachwedd). Gellir dod o hyd i restr lawn o gyfarfodydd ac agendâu yma.

Daeth trafodaethau blynyddol y cytundeb ar gwotâu pysgodfeydd i ben ym mis Rhagfyr 2023, gan ddod i gytundeb ar dros 85 o gyfanswm y dalfeydd a ganiateir ar gyfer 2024. Cododd Oceana bryderon am y risg o orbysgota i nifer o boblogaethau pysgod.

Cytunodd y Comisiwn Ewropeaidd ar estyniad untro i'r rheolau tarddiad presennol ar gyfer cerbydau trydan a batris tan fis Rhagfyr 2026 o dan y Cytundeb. Wrth siarad ym Mhwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig dywedodd Vaughan Gething fod y ffaith eu bod wedi cynnig estyniad yn newyddion da i ni, oherwydd nad oedd yn credu ar y pryd fod pob sector yn barod i ymdrin â'r rheolau tarddiad[...] Fel arall, gallem o bosibl wynebu her go iawn o ran naill ai methu allforio neu rai meysydd heb fod yn hyfyw yn ariannol.

Cyhoeddodd Pwyllgor Senedd Ewrop ar Faterion Tramor a’r Pwyllgor Masnach Ryngwladol adroddiad ar weithredu’r Cytundeb, a fabwysiadwyd gan Senedd Ewrop o 521 pleidlais i 9, gyda 42 yn ymatal. Roedd y ddadl yn croesawu Fframwaith Windsor a gweithrediad llawn fframwaith sefydliadol y Cytuneb. Fodd bynnag, roedd Aelodau Senedd Ewrop yn gresynu at y ffaith bod y DU wedi colli mynediad at raglenni ymchwil yr UE a'r diffyg darpariaethau ar gydweithrediad mewn polisi tramor ac amddiffyn.

Cyhoeddodd UK in a Changing Europe adroddiad ar Adolygiad o’r Cytundeb rhwng yr UE a’r DU, y disgwylir i ddigwydd yn 2025-26. Mae'r adroddiad yn amlinellu tri chynnig ar gyfer yr adolygiad: gwiriad technegol, gweithredu ar ymrwymiadau nas cyflawnwyd, ac ehangu cwmpas y Cytundeb.

Cyfarfodydd y Cytundeb

Cynhaliwyd cyfarfod o Grŵp Cynghori Domestig (DAG) y DU a'r UE yn Llundain ar 6 Tachwedd. Cyhoeddwyd datganiad ar y cyd ganddynt ar ôl y cyfarfod.

Cyfarfu Cynulliad Partneriaeth Seneddol y DU a’r UE (PPA) ar 4-5 Rhagfyr yn Llundain. Mabwysiadodd y Cynulliad argymhelliad ar symudedd . O ran symudedd ieuenctid, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bod yn gwneud newidiadau i ganiatáu i blant 18 oed ac iau, sy'n astudio mewn ysgol yn Ffrainc, ymweld â'r DU ar daith addysgol wedi'i threfnu heb y gofynion pasbort neu fisa arferol ar gyfer ymweld.

Y Cytundeb Ymadael

Cafodd Ronnie Alexander, Joyce Cullen, Marcus Killick a Leo O'Reilly eu hailbenodi gan Yr Arglwydd Ganghellor  yn aelodau anweithredol o'r Awdurdod Monitro Annibynnol ar gyfer Cytundebau Hawliau Dinasyddion ar ôl Brexit. Ronnie Alexander yw cynrychiolydd y bwrdd dros Gymru, a bydd yn gwasanaethu o 17 Mawrth 2024 tan 16 Rhagfyr 2027. Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol sy’n monitro hawliau dinasyddion.

Alinio ac ymwahanu

Cyhoeddodd UK in a Changing Europe ei olrheiniwr ymwahanu diweddaraf, a ganfu chwe achos o ymwahanu gweithredol a naw achos o ymwahanu goddefol rhwng y DU a'r UE. Roedd achosion o ymwahanu ar y gweill hefyd sydd wedi cael eu dal yn ôl gan Lywodraeth y DU, megis oedi cyn cyflwyno'r Model Gweithredu Targed Ffiniau a fydd yn cael ei gyflwyno'n raddol trwy gydol 2024, gan ddechrau ym mis Ionawr. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Cymru a’r model newydd ar gyfer ffiniau masnach y DU gan wasanaeth Ymchwil y Senedd. Tynnodd yr adroddiad sylw at bum achos ar aliniad nodedig. Mae hyn yn cynnwys y cyhoeddiad diweddar bod cytundeb wedi'i ganfod ar delerau derbyn y DU i raglenni Horizon a Copernicus yr UE.

Ym mis Medi, cyhoeddodd Pwyllgor Cyfansoddiad, Ewrop, Materion Allanol a Diwylliant Llywodraeth yr Alban ei Adroddiad Olrhain cyntaf ar Gyfraith yr UE. Bydd hyn yn rhan o gyfres o adroddiadau i gefnogi gwaith craffu ar bwyllgorau seneddol i'r ymrwymiad ar ran Llywodraeth yr Alban i barhau i alinio â chyfraith yr Undeb Ewropeaidd. Daeth yr adroddiad i'r casgliad na fu ymwahanu sylweddol rhwng cyfraith yr Alban a'r UE, o fewn cwmpas ymrwymiad alinio Llywodraeth yr Alban.

Cyfraith yr UE a ddargedwir

Mae ymchwiliad ar brosesau ar gyfer diwygio cyfraith yr UE a ddargedwir wedi cael ei lansio gan Bwyllgor Craffu Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin. Gellir cyflwyno tystiolaeth drwy wefan y Pwyllgor tan 5 Chwefror 2024.

Cyhoeddodd Ymchwil y Senedd adnoddau ar Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023, yn cwmpasu rhai enghreifftiau o'i ddefnydd ymarferol, dyddiadau allweddol, a goblygiadau i lywodraethau datganoledig.

Gogledd Iwerddon

Cynigiodd Llywodraeth y DU becyn cymorth ariannol gwerth £3.3bn i gefnogi adferiad Cynulliad Gogledd Iwerddon. Yn ei ymateb i Is-Bwyllgor Tŷ’r Arglwyddi ar adroddiad Protocol Gogledd Iwerddon, gwnaeth Llywodraeth y DU sylw ar absenoldeb trefniant rhannu pŵer a Fframwaith Windsor. Dywedodd, er bod y cytundeb yn darparu sail newydd ar gyfer sefydlogrwydd a ffyniant yng Ngogledd Iwerddon yn y dyfodol, mae manteision llawn y Fframwaith - gan gynnwys y brêc Stormont newydd - yn ei gwneud yn ofynnol i’r sefydliadau rhannu pŵer gael eu hadfer fel y gallant chwarae eu rhan.

Diweddariadau eraill

Cyfarfu Cynhadledd Rynglywodraethol Prydain ac Iwerddon ar 28 Tachwedd yn Nulyn, lle bu'n trafod hawliau dinasyddion a chydweithredu rhwng Prydain ac Iwerddon. Cynhelir y cyfarfod nesaf yn ystod gwanwyn 2024.

Cynhaliwyd cyfarfod Fforwm Gweinidogol Iwerddon-Cymru ar 20 Hydref, ac mae'n ymrwymiad allweddol i Gyd-ddatganiad Iwerddon-Cymru 2021-25. Cafodd y Fforwm ei gynnal gan y Prif Weinidog a'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, gyda meysydd trafod allweddol yn cynnwys cyfleoedd a rennir ynghylch ynni adnewyddadwy, datblygu sgiliau ac iaith. Cwblhaodd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyhngwladol ei  ymchwiliad i gysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon ym mis Hydref 2023. Croesawodd y Pwyllgor gwblhau Fframwaith Windsor a galwodd ar Lywodraeth Cymru i ailddechrau adrodd yn rheolaidd ar gyflawniadau cyfranogiad Horizon yng Nghymru. Cyhoeddodd y Pwyllgor hefyd ei adroddiad blynyddol ar gysylltiadau rhyngwladol, a oedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio strategaeth benodol ar gyfer yr UE. 

Ar 11 Hydref, clywodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd dystiolaeth gan academyddion a Gweinidog yr Economi ar fasnach gydag ynys Iwerddon, Fframwaith Windsor a Model Gweithredu Targed y Ffin.

Ar 12 Medi, cyhoeddodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd adroddiad ar gyllid datblygu rhanbarthol ar ôl gadael yr UE.

 

 

3.         Cysylltiadau rhynglywodraethol a rhyngseneddol

Rhyddhaodd Llywodraeth y DU ddata Dangosfwrdd Adroddiad Tryloywder Rhyngweithiol y cysylltiadau rhynglywodraethol ar gyfer Chwarteri 2 a 3 2023.

Mae'r adroddiadau'n dangos y bu 42 o gyfarfodydd rhwng y DU a llywodraethau datganoledig yn Chwarter 3, cwymp o’r 59 yn Chwarter 2.

Mae'r cyfarfodydd yn ystod y cyfnod hwn yn cynnwys:

·         Y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol: Rhyddhawyd gohebiaeth yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar 19 Hydref 2023. Rhyddhaodd Llywodraeth Cymru hefyd ddatganiad am y cyfarfod. Ymhlith yr eitemau a drafodwyd roedd:

·         ffrydiau gwaith costau byw ar draws llywodraethau.

·         y cynnig i sefydlu grŵp rhyngweinidogol dwyochrog rhwng yr Adran Gwaith a Phensiynau a Llywodraeth Cymru.

·         y ffordd orau o sicrhau bod materion rhyngwladol yn cael eu hystyried yn briodol yn y system cysylltiadau rhynglywodraethol.

·         y broses ddeddfwriaethol ac egwyddorion Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar ymgysylltu, yn ogystal â chymhwyso Confensiwn Sewel.

·         cynigion ar y gweill ar gyfer cenhedlaeth ddi-fwg. Cytunodd Gweinidogion ar y cyd i barhau i gydweithio ar hyn ar sail y DU gyfan. Gweler hefyd ddatganiad Llywodraeth Cymru ar yr ymgynghoriad pedair gwlad ar y mater.

·         Grŵp Rhyngweinidogol ar gysylltiadau rhwng y DU a’r UE:  Cynhaliwyd cyfarfodydd ar 26 Mehefin 2023 ac ar 11 Medi 2023.

·         Y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig: Cyfarfu’r grŵp yn fwyaf diweddar ar 13 Medi 2023.Trafododd y Grŵp faterion oedd yn cynnwys paratoadau ar gyfer gweithredu Fframwaith Windsor, a gwerthu a meddiannaeth maglau glud a'i ryngweithio â Deddf Marchnad Fewnol y DU. Gweler hefyd ddatganiadLlywodraeth Cymru ar y cyfarfod.

·         Grŵp Rhyngweinidogol ar Sero Net, Ynni a Newid Hinsawdd: Cyfarfu'r grŵp ar 14 Medi 2023. Mae’r ohebiaeth ganolog a datganiad Llywodraeth Cymru yn cynnwys pwyntiau trafod byr. Cyfarfu'r Grŵp hefyd ar 15 Tachwedd 2023. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddiweddariad byr, fodd bynnag, nid oes unrhyw ohebiaeth ganolog ar gael eto.

·         Pwyllgor Cyllid Sefydlog Rhyngweinidogol: Cafodd y Cylch Gorchwylar gyfer y Pwyllgor Cyllid Sefydlog Rhyngweinidogol ei ddiweddaru mewn cyfarfod ar 20 Medi 2023.

·         Grŵp Rhyngweinidogol ar Waith a Phensiynau: Cynhaliwyd y cyfarfod cychwynnol ar 6 Tachwedd 2023. Rhyddhaodd Llywodraeth Cymru ddatganiad ysgrifenedig, manwl a chyhoeddwyd gohebiaeth ganolog.

Cynhaliwyd cyfarfod o'r Fforwm Rhyngseneddol  ar 27 Hydref yn Senedd yr Alban. Cafodd y Senedd ei chynrychioli yn y cyfarfod gan gadeiryddion pwyllgorau, Huw Irranca-Davies AS a Llyr Gruffydd AS.

Trafododd y Fforwm faterion fel yr heriau parhaus yn ymwneud â chysylltiadau rhynglywodraethol, gweithredu Deddf Marchnad Fewnol y DU, a chraffu ar waith rhynglywodraethol.

Pan ymddangosodd gerbron y Pwyllgor Materion Cymreig ar 18 Hydref 2023, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS,fod diddordeb Llywodraeth y DU mewn adfywio cysylltiadau rhynglywodraethol yn gymharol isel.

Dywedodd y Prif Weinidog bod y cysylltiadau yn well nag y buon nhw, ond ychwanegodd nad oes tystiolaeth bod y peiriannau cysylltiadau rhynglywodraethol newydd wedi cywiro materion oedd yn bodoli o dan y system flaenorol.

Ar 23-24 Tachwedd 2023, aeth y Prif Weinidog i 40fed cyfarfod Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig. Thema'r uwchgynhadledd oedd Trawsnewid Bywydau Plant: Mynd i'r Afael â Thlodi Plant a Gwella Llesiant.

Ymhlith yr eitemau eraill a drafodwyd roedd y gwrthdaro yn Israel a Gaza, ymosodiad Rwsia ar Wcráin, amcanion hinsawdd ar y cyd, y cysylltiadau rhwng yr UE a’r DU a chostau byw.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies AS, fod gan Swyddfa Cymru berthynas waith broffesiynol hollol dda gyda Llywodraeth Cymru mewn materion sydd o ddiddordeb i'r ddwy ochr.

Wrth roi tystiolaeth i'r Pwyllgor Materion Cymreig ar 13 Rhagfyr 2023, dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol fod ganddo berthynas broffesiynol a phositif gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething AS. Wrth ymateb i sylwadau'r Prif Weinidog nad oes llawer iawn o benderfyniad egnïol i wneud i gysylltiadau rhyngweinidogol weithio o ran Llywodraeth y DU, dywedodd Mr Davies bod angen dau i ddawnsio.

Mae Pwyllgor Cyllid y Senedd wedi lansio ymchwiliad i Gysylltiadau Rhynglywodraethol Cyllidol, i ystyried sut mae trefniadau cyfredol yn effeithio ar gydweithio sy'n ymwneud â materion cyllidol.

Mae'r Pwyllgor wedi cyhoeddi cylch gorchwyl, a bydd yn cymryd tystiolaeth ysgrifenedig tan 1 Mawrth 2024.

 

 

4.         Deddf Marchnad Fewnol y DU

Cyhoeddod yr Adran Busnes a Masnach ar 30 Tachwedd 2023 bod saith aelod newydd wedi’u penodi i banel Swyddfa’r Farchnad Fewnol.

Mae'r panel yn cynnwys aelodau sydd â phrofiad o weithio gyda Llywodraeth Cymru a gweinyddiaethau datganoledig eraill. Gellir canfod bywgraffiadau aelodau newydd y panel yma.

5.        Deddfwriaeth

5.1 Deddfwriaeth y Senedd

Mae chwe Bil yn cael eu hystyried gan y Senedd, gyda phedwar yng nghyfnod un, un yng nghyfnod dau a dau sydd wedi pasio trafodion cyfnod pedwar.

§    Cyflwynwyd Y Bil Seilwaith (Cymru) ar 12 Mehefin, ac mae yng nghyfnod 2 ar hyn o bryd.

§    Cyflwynwyd Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) ar 20 Mawrth ac mae yn y cyfnod yn dilyn cyfnod 4.

§    Cyflwynwyd y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru) ar 20 Tachwedd ac mae yng nghyfnod un ar hyn o bryd.

§    Cyflwynwyd y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) ar 20 Tachwedd ac mae yng nghyfnod un ar hyn o bryd.

§    Cyflwynwyd Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) ar 13 Chwefror, ac mae yn y cyfnod yn dilyn cyfnod 4.

§    Cyflwynwyd y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) ar 2 Hydref ac mae yng nghyfnod un.

§    Cyflwynwyd Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) ar 18 Medi ac mae yng nghyfnod un.

Cyhoeddwyd adroddiad blynyddol 2022-23 ar ddyfodol cyfraith Cymru ar 1 Tachwedd 2023. Yr adroddiad yw'r ail i gael ei baratoi o dan Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019, ac mae'n nodi'r cynnydd a wnaed i wella hygyrchedd cyfraith Cymru o dan raglen Llywodraeth Cymru Dyfodol Cyfraith Cymru: rhaglen ar gyfer 2021 i 2026.  Daw'r adroddiad i'r casgliad bod y rhaglen yn parhau ar y trywydd iawn a bod cynnydd da wedi’i wneud.

5.2 Deddfwriaeth y DU

Ar 7 Tachwedd, cyhoeddodd Araith y Brenin raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU ar gyfer y sesiwn seneddol nesaf, gyda chyhoeddi 21 o Filiau yn ystod yr araith. Rhestrodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru 15 o'r 21 Bil a oedd yn ymestyn i Gymru ac yn gymwys i Gymru. Cyhoeddodd Ymchwil y Senedd erthygl yn amlinellu’r rhaglen ddeddfwriaethol

6.        Cydsyniad deddfwriaethol

Ar 10 Tachwedd, ymatebodd y Cwnsler Cyffredinol i Araith y Brenin a thynnodd sylw at wahanol fathau o ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar y rhaglen, ac at Ddeddfau a basiwyd heb gydsyniad yn y sesiwn seneddol ddiwethaf.

Dywedodd hefyd bod chwe Bil wedi’u cario drosodd o’r sesiwn seneddol ddiwethaf; gyda memoranda cydsyniad deddfwriaethol wedi’u gosod yn y Senedd ar:

·         Y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol (Rhif 2);

·         Y Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor):

·         Y Bil Dioddefwyr a Charcharorion.

Ers araith y Brenin, gosodwyd memoranda cydsyniad deddfwriaethol hefyd ar:

·         Y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad

·         Y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel)

·         Y Bil Cerbydau Awtomeiddiedig

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Ynni ar 11 Medi.

Ysgrifennodd y Cwnsler Cyffredinol at Adran Busnes a Masnach y DU ynghylch y Ddeddf Streiciau (Isafswm Lefelau Gwasanaeth). Mae'r llythyr yn amlinellu cyfres o bwyntiau yn ymateb i'r ymgynghoriad ar y Cod Ymarfer ar Gamau Rhesymol, gan ddweud bod undebau llafur a gweithwyr yn wynebu canllawiau statudol rhagnodol yn y Cod drafft a'r posibilrwydd o gosbau ariannol sylweddol a diswyddo am beidio â chydymffurfio. Nid yw cyflogwyr yn wynebu cosbau o'r fath, ac yn hytrach mae ganddynt gryn bŵer i atalw gweithwyr drwy hysbysiad gwaith.

7.         Y Cyfansoddiad

Ar 12 Medi 2023, rhoddodd gyn bennaeth Grŵp Llywodraethu'r DU yn Swyddfa'r Cabinet, Philip Rycroft, dystiolaeth i ymchwiliad y Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol (PACAC) ar Alluogrwydd Datganoli yn Whitehall.

Dywedodd Mr Rycroft nad oedd Whitehall mewn sawl achos, yn ei brofiad ef, wir yn gwybod beth oedd yn digwydd yn rhannau datganoledig y DU ac nad oedd, i raddau helaeth, wahaniaeth ganddi.

Aeth ymlaen i ddweud nad yw rheolaeth diriogaethol y Deyrnas Unedig erioed wedi bod yn flaenoriaeth i'r canol, a bod Brexit a Covid wedi datgelu diffygion yn y ddealltwriaeth a'r galluoedd ynghylch datganoli yn Whitehall.

Mae Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a Phwyllgor Cyllid y Senedd wedi ymateb i ymchwiliad y Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol.

Yn ystod sesiwn dystiolaeth gyda'r Pwyllgor Materion Cymreig ar 18 Hydref 2023, fe wnaeth y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS, gefnogi Teyrnas Unedig yn seiliedig ar undeb gydgefnogol - undeb y mae pobl eisiau bod yn perthyn iddi, yn hytrach na theimlo gorfodaeth.

Dywedodd y Prif Weinidog hefyd fod Confensiwn Sewel wedi dod yn ddarn toredig o'r peirianwaith a bod angen datrysiadau radical.

Cyhoeddodd Pwyllgor Cyfansoddiad, Ewrop, Materion Allanol a Diwylliant Senedd yr Alban adroddiad ar sut mae datganoli yn newid mewn Teyrnas Unedig ar ôl ymadael â’r UE.

Daw’r adroddiad, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2023, i'r casgliad bod diffyg consensws, eglurder a chysondeb yn yr amgylchedd rheoleiddio ar ôl ymadael â’r UE, a bod hyn yn arwain at ganlyniadau o ran sut y gellir dwyn Gweinidogion yr Alban i gyfrif.

Mae'r Adroddiad yn nodi ymhellach, lle mae consensws rhwng llywodraethau'r DU, bod arwyddocâd cynyddol cytundebau rhynglywodraethol a defnyddio biliau'r DU mewn meysydd datganoledig yn lleihau atebolrwydd Llywodraeth yr Alban. Trafodwyd themâu tebyg yn Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y Senedd.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies AS, nad dyma'r amser i ailagor y cwestiwn cyfansoddiadol, a’i bod yn ddyletswydd ddemocrataidd i dderbyn bodolaeth y Senedd.

Roedd Mr Davies yn ymateb i gwestiynau am fil aelod preifat, Rob Roberts AS sy'n ceisio cyflwyno deddfwriaeth i gynnal refferendwm ar roi terfyn ar ddatganoli yng Nghymru, yn ystod sesiwn dystiolaeth gyda'r Pwyllgor Materion Cymreig ar 13 Rhagfyr 2023.

Cadarnhaodd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yn ei adroddiad cynnydd ym mis Hydref 2023 y bydd adroddiad terfynol y Comisiwn yn cael ei lansio yn y Senedd ar 18 Ionawr 2024.

Ers ei adroddiad cynnydd diwethaf, mae'r Comisiwn wedi cael tystiolaeth lafar gan Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru, a Michael Gove AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a'r Gweinidog Cysylltiadau Rhynglywodraethol.

8.        Diwygio'r Senedd ac etholiadau

Cafodd Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) ei osod gerbron y Senedd ar 18 Medi 2023. Mae’n rhaid i Bwyllgor y Biliau Diwygio adrodd i'r Senedd ar egwyddorion cyffredinol y Bil erbyn 19 Ionawr 2024.

Cynhaliwyd ymgynghoriad ar y Bil rhwng 21 Medi a 3 Tachwedd 2023, ac mae'r ymatebion wedi cael eu cyhoeddi ar-lein.

Mae'r Pwyllgor Biliau Diwygio wedi cynnal sawl sesiwn dystiolaeth ar y Bil, gan gynnwys gydag academyddion systemau etholiadol, sefydliadau diwygio etholiadol, dwy gyda'r Cwnsler Cyffredinol (5 Hydref 2023 a 13 Rhagfyr 2023), ac aelodau o'r Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gohirio cyflwyno Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol). Mae'r Bil yn ymwneud â chynlluniau i gyflwyno cwotâu rhywedd ar gyfer etholiadau'r Senedd yn y dyfodol.

Wrth ymateb i gwestiynau yn y Cyfarfod Llawn ar 13 Rhagfyr 2023, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol bod “gwaith pellach yn cael ei wneud ar y Bil a bydd diweddariad pellach yn cael ei ddarparu maes o law".

Cafodd y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) ei osod gerbron y Senedd ar 2 Hydref 2023. Mae’n rhaid i’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai adrodd i'r Senedd ar egwyddorion cyffredinol y Bil erbyn 26 Ionawr 2024.

Cynhaliwyd ymgynghoriad ar y Bil rhwng 5 Hydref a 10 Tachwedd 2023, ac mae'r ymatebion wedi cael eu cyhoeddi ar-lein.

Mae'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai wedi cynnal sawl sesiwn dystiolaeth ar y Bil, gan gynnwys dwy gyda'r Cwnsler Cyffredinol (26 Hydref a 7 Rhagfyr), gydag academyddion, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Yn dilyn ymchwiliad i gyflwyno Dull o Adnabod pleidleisiwr,  ysgrifennodd y Farwnes Drake, Cadeirydd Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi, at Simon Hoare AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol (Llywodraeth Leol), yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau.

 

Nododd y Cadeirydd ganfyddiadau'r Pwyllgor, gan gynnwys bod Dull o Adnabod pleidleiswyr wedi cael effaith negyddol ar dueddiad neu gyfle rhai grwpiau demograffig i bleidleisio.

9.        Cyfiawnder

9.1 Cymru

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gofnodion cyfarfodydd Is-bwyllgor y Cabinet ar Gyfiawnder ar 29 Mehefin 2023 a 25 Hydref 2023.

Roedd y Fonesig Vera Baird CB, Cynghorydd Arbenigol Annibynnol ar Gyfiawnder Datganoli, yn bresennol yn y ddau gyfarfod.

Ymhlith y pwyntiau trafod yn y cyfarfod ym mis Mehefin roedd cefnogaeth i'r sector cyfreithiol a pharatoadau ar gyfer datganoli cyfiawnder. Yn y cyfarfod ym mis Hydref, trafodwyd addysg carcharorion, dadgyfuno data, a'r rhaglen Cartrefi Bach.

Ar 24 Hydref 2023, gwnaeth y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt AS, ddatganiad llafar ar lasbrintiau cyfiawnder troseddol.

Dywedodd y Gweinidog fod tystiolaeth glir bod glasbrint cyfiawnder menywod yn gwneud gwahaniaeth, gan nodi bod 208 dedfryd o garchar ar unwaith i ferched Cymru yn 2022, o'i gymharu â 507 yn 2019. Dywedodd y Gweinidog y bydd y glasbrint cyfiawnder ieuenctid yn canolbwyntio ar dri maes blaenoriaeth wrth symud ymlaen: atal, dargyfeirio cyn y llys a’r ddalfa. Disgwylir cynlluniau gweithredu wedi'u diweddaru yn fuan.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru raglen ymchwil i baratoi ar gyfer datganoli plismona. Carl Foulkes, cyn Brif Gwnstabl Gogledd Cymru, fydd yn arwain y rhaglen. Bydd yn cysylltu â'r Fonesig Vera Baird yn rhinwedd ei swydd fel Cynghorydd Arbenigol Annibynnol i Lywodraeth Cymru ar ddatganoli Cyfiawnder.

Ychwanegodd Llywodraeth Cymru y bydd y rhaglen yn ymgysylltu â grwpiau a chymunedau sydd â phrofiad personol o ymdrin â'r heddlu, fel dioddefwyr troseddau, neu gymunedau lleiafrifoedd ethnig sydd â lefelau hanesyddol isel o ymddiriedaeth mewn plismona.

Cyhoeddodd Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans AS, ddatganiad ysgrifenedig ar setliad dros dro yr heddlu ar gyfer 2024-25.

Roedd y datganiad, a gyhoeddwyd ar 14 Rhagfyr 2023, yn nodi dechrau cyfnod ymgynghori a fydd yn dod i ben ar 10 Ionawr 2024. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig gosod ei chyfraniad i gyllido’r heddlu ar gyfer 2024-25, ar £113.47 miliwn.

9.2 Y DU

Cyfarfu’r Grŵp Rhyngweinidogol ar Gyfiawnder am y tro cyntaf ar 12 Medi 2023.

Roedd pwyntiau trafod pwysig yn cynnwys:

·         capasiti carchardai a chamau sy'n cael eu cymryd i wella capasiti a lleihau'r galw

·         adferiad llysoedd yn dilyn Covid

·         adolygiad y Weinyddiaeth Gyfiawnder o gymorth cyfreithiol sifil

·         Y Bil Dioddefwyr a Charcharorion. Nodwyd bod y broses Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn cael ei sbarduno ar gyfer rhannau o'r Bil

Mae’r Athro Alison Young wedi’i phenodi’n Gomisiynydd y Gyfraith ar gyfer Cyfraith Gyhoeddus a'r Gyfraith yng Nghymru. Bydd yn dechrau yn y swydd o 18 Mawrth 2024 am bum mlynedd.

Yr Athro Young yw Athro Syr David Williams mewn Cyfraith Gyhoeddus ym Mhrifysgol Caergrawnt, ac mae'n Gymrawd Coleg Robinson. Mae hefyd yn gydymaith academaidd yn 39 Essex Chambers ac yn Gymrawd Emeritws yng Ngholeg Hertford, Rhydychen.

Cynhaliodd y Pwyllgor Materion Cymreig sesiwn dystiolaeth gyda phedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu Cymru ar 8 Tachwedd 2023. Roedd Dirprwy Gomisiynydd Gwent yn dirprwyo ar ran y Comisiynydd, a oedd yn sâl.

Trafododd y panelwyr eu hymgysylltiad â llywodraethau Cymru a'r DU, yn ogystal â datganoli plismona, cyllid, a dyfodol rôl y Comisiynydd Heddlu a Throseddu.

Mae’r cyfnod y mae'n ofynnol yn gyfreithiol i bobl sydd ag euogfarnau troseddol ddatgan euogfarnau i'r rhan fwyaf o gyflogwyr posibl ar ôl i’w dedfryd ddod i ben wedi cael ei leihau.

Mae'r newid hwn hefyd yn berthnasol i bobl sy'n gwneud cais am gyrsiau, yswiriant a thai. Mae dedfrydau o garchar o bedair blynedd neu fwy am droseddau llai difrifol yn cael eu gwaredu ar ôl cyfnod o saith mlynedd o adsefydlu, ar yr amod nad oes unrhyw drosedd bellach wedi'i chyflawni. Nid yw'r newid yn berthnasol i droseddwyr sydd wedi cyflawni troseddau rhywiol, treisgar neu derfysgol difrifol.

Cafodd Charlie Taylor ei ailbenodi gan yr Arglwydd Ganghellor yn Brif Arolygydd Carchardai EF, a Sue McAllister ei phenodi yn Brif Arolygydd Prawf EF Dros Dro.

Penodwyd Charlie Taylor yn Brif Arolygydd Carchardai EM yn wreiddiol yn 2020 a'i ailbenodi yn 2023. Rhwng 2017 a 2020 Mr Taylor oedd Cadeirydd Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr.

Rhwng 2018 a 2022, roedd Sue McAllister yn Ombwdsmon Carchardai a Phrawf. Cyn dod yn Ombwdsmon, Mrs McAllister oedd Cyfarwyddwr Lleihau Troseddu a Chyfarwyddwr Cyffredinol Gwasanaeth Carchardai yr Adran Gyfiawnder, Gogledd Iwerddon.

9.3 Yr Alban

Cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban raglen o ddiwygiadau i'r system gyfiawnder.

Mae'r diwygiadau sydd ar y gweill hyd at fis Mawrth 2026 yn cynnwys:

·         cyflwyno Bil Casineb at Fenywod i greu troseddau newydd sy'n gysylltiedig ag ymddygiad yn ymwneud â chasineb at fenywod;

 

10.  Atodiad: Geirfa:

Llun yn cynnwys testun, llun sgrin, bedyddfaen, bwydlen  Wedi cynhyrchu’r disgrifiad yn awtomatig